SL(5)110 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017
Cefndir a Phwrpas
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n berthnasol i adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’u penderfyniad i gynnwys adeilad ar restr a lunnir neu a gymeradwyir o dan adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Y weithdrefn
Negyddol.
Craffu Technegol
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 (vi) mewn perthynas â thestun Saesneg yr offeryn hwn.
Mewn rhai mannau yn y Rheoliadau, mae cyfeiriad at "in paragraph" ond nid oes rhif paragraff wedi'i gynnwys. Mae hyn yn digwydd yn rheoliadau 3(2), 6(2), 7(2), 11(2), 15(2) a 20(3).
Mae'r un broblem yn digwydd mewn perthynas ag "under regulation" yn rheoliad 7(2)(b).
Yn ogystal, nid yw rheoliad 7(2)(b) wedi cael ei ysgrifennu'n iawn. Y rheswm am hyn yw y dylai rheoliad newydd 7(2)(c) ddechrau gyda "confirm that copies ...”. Dylai rheoliad 7(2)(c) wedyn ddod yn 7(2)(d), ac yn y blaen.
Nid oedd y diffygion hyn yn y Rheoliadau drafft buom yn edrych arnynt.
Rydym yn deall drwy ein gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru nad oedd y fersiwn copi caled a lofnodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys y problemau fformatio hyn, a bod y rhain yn y fersiwn a osodwyd yn unig. Rydym wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru (ond nid ydym wedi gweld yr ohebiaeth wreiddiol) bod y Cofrestrydd OS wedi awdurdodi ailargraffiad o'r offeryn, fel ei fod yn cadw at y fersiwn a wnaed.
Craffu ar rinweddau
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
16 Mai 2017